Image of the audience engaged in conversation and watching the panel

Unlimited Connects Cymru: Ei wneud yn brif-ffrwd, yn eiddo i ni

Yn ystod y mis mae digwyddiadau ‘Unlimited Connects’ wedi parhau ar draws Cymru. Mae Kelly Barr we sgwennu am ei phrofiad hi wrth fynychu’r digwyddiad yn Llanelli.

Ni allai Unlimited Connects Cymru fod yn fwy amserol. Mae yna newid cyflymdra. Rhyw glosio at ei gilydd ymhlith y rhai sy’n awyddus i gael eu cynnwys, eu cynrychioli a bod yn rhan o’r drafodaeth, a’r cynghreiriaid sy’n barod i helpu i wneud iddo ddigwydd. Ac nid hynny’n unig, ond yr awydd hefyd i weld Cymru’n arwain y ffordd.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gawson ni gyfle i drafod beth sydd eisoes yn digwydd ym myd theatr hygyrch, a chymaint mwy sydd yna i’w wneud. Mae’r mis diwethaf wedi bod yn un diflas iawn yng Nghymru, gyda’r tywydd gwael yn effeithio ar hwyliau pawb. Ond, er gwaetha’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu, ar y dydd Iau hwnnw yn Llanelli teimlai fel petai’r haul wedi mentro dod i’r golwg am ychydig.

Yn y digwyddiad, a noddwyd gan Unlimited, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Gâr, atgoffwyd ni i archwilio’r gwaith rydyn ni’n ei greu, ei raglennu, ei farchnata a’i hyrwyddo, gyda ffocws arbennig ar iaith. Mae yna gymaint i’w drafod gyda chelfyddydau dan arweiniad anabledd, iaith, hygyrchedd a chynhwysedd, felly mae’n galonogol i weld y bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu hatgynhyrchu ledled Cymru gyda thema wahanol bob tro.

Yn fy rôl fel Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau a Chreadigedd gydag Age Cymru, a rheolwr Gŵyl y Gwanwyn – digwyddiad blynyddol sy’n dathlu creadigedd mewn pobl hŷn – ro’n i’n awyddus i weld sut y gallwn annog mwy o elfennau cynhwysol yn y gwaith rydyn ni’n ei raglennu. Nid yw Gwanwyn yn ddim heb ein sefydliadau partner, o elusennau llawr gwlad i gynhyrchwyr portffolio cenedlaethol y mae eu gweithgareddau’n gyfrifol am greu’r ŵyl. Rydym wedi gallu gweithio gyda grwpiau arbenigol sy’n gallu darparu cyfleoedd creadigol ar gyfer pobl hŷn a chanddynt anghenion penodol. Ond – a’r cyllidebau mor dynn – sut gallwn ni sicrhau bod holl raglen yr ŵyl yn hygyrch?

I mi, un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd gweld gwaith-ar-waith wedi’i arwain gan y byddar, sef I Said I Love You, gan Stephanie Back, Elise Davidson, Alun Saunders a Jed O’Reilly. Mae’r gwaith yn archwilio’r modd mae cyfathrebu yn y gymdeithas wedi torri i lawr, a gwneir hynny drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn ogystal â’r iaith Gymraeg. Roedd llawer o’r materion a godwyd yn y gwaith hwn yn bethau nad oeddwn i erioed wedi eu hystyried o’r blaen, a minnau’n dod o gefndir Saesneg/clywed. Mae’r gwaith yn hynod deimladwy, ac rwy’n siŵr nad fi oedd yr unig un i deimlo’n gyffrous ynghylch ble mae e’n mynd.

Yn ôl ffigurau’r GIG yng Nghymru, mae dros 40% o bobl dros 50 oed yn dioddef o rywfaint o golled clyw. Mae hynny’n ganran sylweddol o’n cynulleidfa. Ni allwn danystyried faint o bobl allai gael budd o ddulliau mynediad megis defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chapsiynu, p’un ai a ydyn nhw’n nodi eu bod yn F/fyddar ai peidio.

Yn nhermau’r iaith Gymraeg, rydym wedi creu partneriaeth gyda nifer o artistiaid a sefydliadau Cymraeg eu hiaith, a hynny drwy gyfrwng yr ŵyl a’n rhaglenni eraill – yn cynnwys Theatr Genedlaethol Cymru a’r artist gweledol, Alice Briggs. Ac rydym wedi cydnabod pwysigrwydd iaith, yn enwedig yn achos y rhai sy’n byw gyda dementia – gallwch ddarllen am hyn yn adroddiad diweddar The Baring Foundation, sef On Diversity and Creative Ageing.

Yn wir, mae’r croestoriad rhwng Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a’r iaith Gymraeg wedi gwneud i mi ystyried cyfathrebu mewn ffordd newydd, ac wedi pwysleisio arna i bwysigrwydd yr awydd i’w gael yn iawn, hyd yn oed os ydyn ni weithiau’n methu. Cryfder sector y celfyddydau yw ein parodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd, felly rydym yn y lle delfrydol i wthio’r agenda ymlaen.

Hunaniaeth, cyfyngiadau deddfwriaeth, a phuryddiaeth o’i gymharu â dwyieithrwydd – cawsant i gyd eu trafod mewn amgylchedd diogel gan y panel ble, unwaith eto, roedd yn teimlo’n iawn i gael pethau’n anghywir. Aelodau’r panel oedd yr actores aml-ieithog Pinar Ogun; y cyfarwyddwr Angharad Lee; Ioan Gwyn, yr unig sain-ddisgrifiwr sy’n Gymro Cymraeg, a’r cadeirydd oedd Rhian A Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru. Nododd aelodau’r panel nifer o’r heriau a wynebir pan yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog, gan ddefnyddio eu profiadau eu hunain i roi gwybodaeth i’r gynulleidfa. Yng ngoleuni strategaeth Llywodraeth Cymru i greu 1 biliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, roedd y drafodaeth yn atgoffa pawb mai’r unig ffordd o gyflawni hyn yw trwy gael pawb i ddangos parch a dealltwriaeth at ei gilydd, gan ystyried y gorffennol a chadw llygad ar y dyfodol. Roedd yr astudiaethau achos a gyflwynwyd gan Angharad Lee (Leeway Productions), Natasha Sutton Williams (Working Birthday Productions) a Nye Russell-Thompson (StammerMouth) yn cynnig dulliau go iawn a realistig o weithio (SSE, Arwyddo Saesneg â Chefnogaeth, a Chystrawen Iaith Arwyddion Prydain) ac atgoffwyd fi y gallwch archwilio themâu cymhleth a heriol, a defnyddio sawl iaith, drwy farchnata hyderus. Mae apêl ‘noson mas dda’ yn dal i fodoli i bawb ohonom, a gall oresgyn nifer fawr o rwystrau.

Un pwynt arwyddocaol i mi, a godwyd gan Angharad Lee, oedd ei bod – trwy ddarparu nifer o ddulliau mynediad – wedi galluogi un cwpwl i weld y perfformiad ar yr un noson; roedd hyn yn rhywbeth oedd wedi bod yn anodd iddyn nhw oherwydd bod ar un o’r ddau angen mynediad at berfformiad BSL, a’r llall ag angen perfformiad wedi’i gapsiynu. Mae’n holl bwysig bod teuluoedd a chanddynt wahanol anghenion yn gallu mynychu a mwynhau’r celfyddydau gyda’i gilydd.

Y prif beth i mi ei gymryd o’r digwyddiad oedd hyn – er mor llafurus y gall fod, y rhai sy’n creu trafferth sy’n peri newid, ac mae angen i ni fel sector eu cefnogi wrth iddynt geisio ysgwyd y sefyllfa fel ag y mae. Mae gennym gyfrifoldeb i fod yn aelodau chwilfrydig o’r gynulleidfa, a chael meddyliau agored. Nid cyfrifoldeb artist anabl yw cynrychioli eu hanabledd neu eu hiaith – ac mae hynny’n rheswm arall pam fod y rhai sy’n creu trafferth mor bwysig.

Mae cymaint o ddysg allan yna, ac awydd go iawn i rannu’r wybodaeth honno, felly mae angen i ni barhau i siarad am ein llwyddiannau (a’n methiannau). Mae hyrwyddo gwaith artistiaid anabl i’n cydweithwyr ar draws y sector yn holl bwysig, ac yn ffordd hawdd i ni symud pethau ymlaen.

Hyd yma, does gen i mo’r ateb o ran fy ngwaith fy hun, yn enwedig mewn cyfnod pan fo’r cyllidebau mor dynn, ond mae gen i awydd rhoi cynnig arni; mae hyn yn golygu y byddaf nid yn unig yn parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg llafar cyfyng iawn mewn ebyst ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ond byddaf yn sicrhau hefyd bod mynediad yn rhan sylweddol ac ystyriol o unrhyw brosiect yn y dyfodol. Ni fydd rhyw ymdrech symbolaidd yn gwneud y tro os na fyddwn yn mynd allan ac yn gwahodd cynulleidfa fwy amrywiol i mewn.

Kelly Barr

Gwanwyn.org.uk

@GwanwynAgeCymru @kbarrdiff

Yn anffodus rydym wedi gorfod dileu’r digwyddiadau Unlimited Connects yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth a’r Taliesin Abertawe ond bydd y digwyddiad sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau gweledol ‘Making Space’ sydd wedi cael ei aildrefnu nawr yn cael ei gynnal ar-lein