View of Torch Theatre from the audience showing an empty, blue-lit stage and many people in the seats holding what appear to be white paper programmes.
Image Credit - Alex Lloyd, Marketing Manager, Torch Theatre

Pwyslais ar y lleol yn Theatr Torch Cymru

(Click here to read this information in English)

Daeth Unlimited Connects Cymru i Aberdaugleddau yr wythnos ddiwethaf, ac mae Ben Lloyd, y Cyfarwyddwr Gweithredol newydd, a Jo Verrent, uwch-gynhyrchydd Unlimited, yn ein harwain drwy eu nodiadau am y diwrnod.

Ar ôl mwynhau cinio rhwydweithio blasus, aeth y grŵp ati mewn modd gonest, cartrefol a llawn hiwmor. Hwn oedd 10fed diwrnod Ben fel Cyfarwyddwr Gweithredol yn Theatr Torch, ar ôl iddo dreulio pum mlynedd yn theatrau Everyman a’r Playhouse yn Lerpwl, ond ni wnaeth hynny ei rwystro rhag neidio i mewn, gan ddangos gwybodaeth o’r Torch yn ogystal â rhannu arfer gorau a ddysgodd yn Lerpwl. Gyda Sara Beer o Celfyddydau Anabledd Cymru a Chris Ryan o Gofal Celf ar y panel, a chynulleidfa oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Taking Flight, National Theatre Wales, Cyngor Celfyddydau Cymru a Gofal Celf, ynghyd ag un o Gynghorwyr Sir Benfro, roedd y drafodaeth yn gyfoethog a bywiog.

Felly, beth yn union fuon ni’n ei drafod? Roedd y pwyslais ar y lleol – yn benodol felly pobl anabl leol a fyddai o bosib yn mynychu canolfannau neu weithgareddau yn ystod y dydd, ond nad ydynt bob amser yn rhan o’r prif gynulleidfaoedd ar gyfer digwyddiadau mewn theatrau, neu weithgareddau a drefnir gan gymdeithasau celfyddydol. Dyma rai o’r problemau – a’r atebion – a drafodwyd.

Trafnidiaeth
Ledled Cymru, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem i lawer, nid dim ond i bobl anabl. Mae llawer o bobl anabl yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gyda hyfforddiant teithio, ond os nad yw’r amserau a gynigir gan y cwmnïau yn gyfleus ar gyfer mynychu perfformiadau neu ddigwyddiadau, does fawr ddim y gallan nhw ei wneud. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys gweithio’n uniongyrchol gyda’r cwmnïau bysys, gwneud defnydd o fysys mini, gwneud y daith yn rhan o’r perfformiad neu’r digwyddiad, a thalu am dacsis fel darpariaeth mynediad.

Cymorth
Nid pob person anabl sy’n gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae rhai sy’n gallu ei ddefnyddio yn parhau i fod ag angen gofal a chymorth 1-1. Awgrymwyd defnyddio rhwydweithiau gwirfoddolwyr a chynlluniau megis Gig Buddies (a’i ymestyn i gynnwys y Theatr), ynghyd ag ymgyrchoedd megis Stay Up Late, sy’n gwthio am newidiadau i oriau gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn yr hoffai’r unigolyn ei wneud. Mewn egwyddor, dylai Taliadau Uniongyrchol roi mwy o ddewis i bobl dros y gweithgareddau maen nhw’n ymgymryd â nhw, er mai cymysg oedd yr ymateb o ran sut roedd y rhain yn gweithio’n ymarferol.

Mynediad
Mae cerdyn mynediad HYNT bellach yn arwain newidiadau yn Lloegr hefyd, gan ddarparu un ffordd i bobl anabl sicrhau eu bod yn cael y mynediad mae arnynt ei angen (a’r cerdyn CEA); yn ogystal, mae rhagor o raglenni o waith sy’n cael ei sain-ddisgrifio, sy’n cynnwys capsiynau, ac sy’n cael ei ddehongli gan BSL, i gyd yn gwneud gwahaniaeth pan gyplysir hwy â’r gweithgaredd eang i ddatblygu cynulleidfa mae arnynt ei angen i sicrhau cynulleidfa.

Cafwyd trafodaeth hefyd ar berfformiadau ymlaciedig a rhai dementia-gyfeillgar – gyda rhai’n cydnabod yr angen i gynnal ‘perfformiadau ar gyfer pobl bryderus’ yn ogystal, ar gyfer rhai a chanddynt anghenion mynediad gwahanol, y gallai perfformiadau ymlaciedig effeithio arnynt (e.e. rhai sy’n defnyddio cymorth clyw a allai o bosib ddymuno cael awditoriwm tawelach). Ar 28 Chwefror, cynhelir digwyddiad ar Berfformiadau Ymlaciedig yn Theatr y Parc a’r Dâr ar gyfer y rhai fyddai’n hoffi gwybod rhagor.

Soniwyd hefyd am aps mynediad – megis yr UCAN GO app – a’r rôl gynyddol bwysig sydd gan dechnoleg i’w chwarae yn y dasg o wella mynediad.

Croesawu pawb
Roedd pwysigrwydd gwasanaeth i’r cwsmer yn bwnc a godwyd dro ar ôl tro – yr angen i estyn croeso, a hefyd i feddwl yn ddwys ynghylch ymestyn y croeso hwnnw i gyflwyno gweithgareddau newydd.

Gall dosbarthu taflenni fod yn ddefnyddiol, ond i bwy? Pwy y mae angen i ni eu hargyhoeddi? Yn aml mae yna ‘borthorion’ a allai reoli faint o ddewis sydd gan yr unigolyn. Crybwyllwyd proses profiad cynulleidfa Creu Cymru fel ffordd dda o adeiladu empathi go iawn gyda chynulleidfaoedd, a chanmolwyd hefyd y gweithgareddau ar ddull ‘siopwr dirgel’ am roi mewnwelediad i bobl i’r hyn na allant bob amser ei weld.

Dyddiau agored, teithiau cefn llwyfan (yn cynnwys y rhai a gynigir ar-lein), gweithgareddau cyn ac ar ôl digwyddiad, teithiau cynefino, teithiau cyffwrdd, gweithdai… roedd yna lawer o enghreifftiau o’r math o beth y gallai sefydliadau eu cynnig i helpu pobl i gael rhagor o wybodaeth, ac o bosib i wneud y newid hwnnw o fod yn gyfranogwr mewn un gweithgaredd unigol i fod yn rhywun sy’n teimlo’n gartrefol mewn canolfan ac yn fwy tebygol o fynychu digwyddiadau eraill – yn enwedig os yw’r adeilad ei hun yn ffurfiol o ran cynllun, sy’n gallu bod yn rhwystr i bobl. Soniwyd y gallai gweithdai sy’n gysylltiedig â digwyddiadau gael eu hehangu i gynnwys grwpiau targed ehangach, a gallai rhai grwpiau hyd yn oed ddymuno cysylltu eu gweithgareddau hwy â rhaglenni theatrau a datblygu cysylltiadau rhyngddynt.

Mae yna gynnydd yn yr achosion o droseddau casineb yn erbyn pobl anabl, a chafwyd apêl i dynnu sylw atynt a pheidio â sefyll ar y cyrion yn gwylio neu’n gwrando ar ymddygiad neu iaith negyddol a sarhaus, ond yn hytrach i chwarae rhan yn y gwaith o wneud canolfannau celfyddyd yn llefydd diogel i bobl anabl.

Newid Theatrau
Codwyd cwestiynau ynghylch rheolau a defodau’r theatr – pam mae pethau fel hyn? Roedd yr awgrym ynghylch sioeau cyfnos am 5.30pm yn agoriad llygad i lawer, a thrafodwyd esiampl Canolfan Gelfyddydau Battersea (BAC); trwy gyd-ddigwyddiad, daeth BAC y lleoliad ymlaciedig cyntaf yn y byd ar yr union ddiwrnod ag y cynhaliwyd y cyfarfod hwn.

Cydnabuwyd fod angen i ni newid canfyddiad pawb sy’n mynychu’r theatr, a datblygu a hyrwyddo ethos cynhwysol – i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Ond sut orau i fynd ati i newid ffordd pobl o feddwl? Buom yn trafod cynrychiolaeth – pwysigrwydd gweld pobl anabl ar lwyfannau ac nid yn y cynulleidfaoedd yn unig, a llwyddiant y cynllun Ramps on the Moon yn Lloegr a pherfformiad o Midsummer Night’s Dream lle chwaraewyd rhannau’r Mechanicals gan gwmni o rai ag anableddau dysgu. Y cwestiwn mawr oedd sut i sicrhau bod pawb – nid rhai aelodau o’r staff yn unig – yn cefnogi gwerthoedd theatr neu sefydliad celfyddydol. Soniwyd yma am hyfforddiant – ar gyfer y staff a’r gwirfoddolwyr fel ei gilydd.

Dilyniant proffesiynol
Canmolwyd Hijinx Academy am roi sgiliau i actorion anabl, ond mae’r camau nesaf yn dal yn annelwig – efallai y gallwn i gyd wneud mwy i sicrhau bod swyddi a chyfleoedd yn cael eu darparu ar gyfer perfformwyr anabl, arweinwyr gweithdai, technegwyr ac eraill. Ni ddylid gweld pobl anabl yn unig fel cynulleidfaoedd posibl, ond yn hytrach dylent gael eu cynrychioli ar bob lefel o fewn sefydliadau. Mae gan Unlimited nifer fawr o artistiaid ymhlith ei gyn-fyfyrwyr, yn cynnwys rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, a llawer o berfformiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau sydd ar daith – does dim prinder o waith o ansawdd uchel ar gael, ac mae gan Celfyddydau Anabledd Cymru aelodaeth eang o artistiaid anabl (ac argymhellwyd y dylai rhagor o bobl ymuno er mwyn derbyn eu cylchlythyr ardderchog). Trafodwyd y model Agent for Change fel un opsiwn, gan gyfeirio’n arbennig at rôl Caroline Bowditch yn y Scottish Dance Company.

Arian, arian, arian
Trafodwyd y pwnc anodd hwnnw, sef arian. Mae gan theatrau economi cymysg, sy’n aml yn cynnwys eu cynyrchiadau eu hunain, rhai sy’n llogi’r gofod, a sioeau a ddaw i mewn ar drefniant rhannu arian y swyddfa  docynnau, gan olygu na allant bob amser gynnig yr un disgownt ar gyfer pob sioe – rhywbeth sy’n ymddangos yn anghyson o’r tu allan gan fod aelodau o’r gynulleidfa’n derbyn neges wahanol ar gyfer pob sioe, yn hytrach na chynnig cyson ar draws y cyfan. Sut gall lleoliadau agor y ddeialog hon gyda chynulleidfaoedd, a hefyd gyda’r rhai sy’n llogi neu’n perfformio yn eu gofodau? Os mai nod Hynt, er enghraifft, yw denu rhagor o bobl anabl (o bosib gyda thocyn am ddim i gydymaith) i mewn i theatrau, beth yw goblygiadau sylfaenol llwyddiant? Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni heddiw, ni all yr un lleoliad celfyddydol fforddio anwybyddu canlyniadau ariannol na mynediad i’r anabl – ond beth sy’n digwydd pan fo’r ddau’n cyd-daro yn erbyn ei gilydd?

Ar ddiwedd y dydd, y neges glir i bawb ohonom oedd un o barch a chyfrifoldeb – tuag at bawb. Nid grŵp cydryw yw pobl anabl, ond yn hytrach unigolion o bob math a chanddynt anghenion gwahanol. Sut gallwn ni i gyd gynnig y dewis a’r cysondeb gorau er mwyn cynnig mynediad cyfartal i bawb? Dylai canolfannau lleol fod ar gyfer pob person lleol, nid rhai pobl leol yn unig – ac i wneud hyn yn realiti go iawn mae’n golygu cymryd amser, cynllunio, ac ymrwymiad gwirioneddol i newid.

Bu Ben a thîm y Torch yn adlewyrchu ar ba mor ddefnyddiol y bu i gael cyfle i ystyried y cyfan mae’r Torch yn ei wneud ar hyn o bryd, mewn amgylchedd agored a chefnogol a chyda help cydweithwyr ar draws y rhanbarth, a gallu rhoi hyn yn y cyd-destun ehangach o fynediad a darpariaeth ar gyfer pobl anabl yn Sir Benfro a gorllewin Cymru. Fel y dywedodd Ben: ‘Bu’n brofiad ysbrydoledig ac anogol i rannu profiadau a gwybodaeth wrth i ni edrych ar adnabod a chyd-drafod y rhwystrau sy’n dal i fodoli i gael mynediad llawn a chyfartal a chyfle i gyfranogi yn y celfyddydau ar gyfer pobl anabl yn ein cymuned.’

Mae yna bump o ddigwyddiadau Unlimited Connects Cymru eto i ddod – beth am ymuno â ni a dod yn rhan o’r sgwrs?

28 Chwefror 2020, 11am–4pm: Creu Gofod – Y grefft o guradu artistiaid anabl
Tŷ Pawb Wrecsam

Rhagor o wybodaeth yma.

5 Mawrth 2020, 10.30am–4.30pm: Ei wneud yn brif ffrwd, yn eiddo i ni
Ffwrnes Llanelli

Trefnwch eich lle yma.

12 Mawrth 2020: Celfyddyd pwy yw hi, ta beth?
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

Chwiliwch am Unlimited ar eu gwefan.

2 Ebrill 2020: Y Rhai Ifanc

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Rhagor o wybodaeth yma.

27 Ebrill 2020: Beth Nesaf? – arloesedd a dyfodol celfyddydau anabledd

Taliesin Arts. Rhagor o wybodaeth yma.

FROM THE BLOG