Working from home. Image by Suzie Larke.

Creu Gofod: Curadu Artistiaid Anabl

Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliodd Grŵp Celfyddyd Weledol Cymru (VASW) ddigwyddiad Unlimited Connects Cymru ar-lein, sef Creu Gofod: Curadu Artistiaid Anabl. Yn cymryd rhan roedd 15 o artistiaid llawrydd, curaduron, cynhyrchwyr ac uwch-staff rhaglennu mewn canolfannau celfyddydau gweledol yng Nghymru. Y bwriad oedd cynnal y digwyddiad yn Wrecsam, ond am resymau amlwg bu raid ei chynnal ar ffurf cynhadledd fideo. Yma, mae Suzie Larke, sydd ar hyn o bryd yn cael ei rhwystro rhag rhannu ei Chomisiwn Unlimited oherwydd COVID 19, yn adrodd ar y gynhadledd . . .

(Link to English version.)

‘Gweithio o Gartref’. Dellwedd gan Suzie Larke.
Mae Max, fy nghariad, wedi bod yn gweithio o gartref am y tair wythnos ddiwethaf.Bellach, ein soffa ni yw ei ‘swyddfa’, ac mae canolbwyntio ar waith yn gallu bod yn heriol o bryd i’w gilydd.

Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn teimlo rhyddhad nad oedd raid i mi yrru am 5 awr o Gaerdydd i fynychu’r cyfarfod hwn. A bod yn onest, rwy’n aml yn teimlo bod digwyddiadau cymdeithasol yn fy ngwneud yn flinedig iawn, yn enwedig pan maen nhw hefyd yn golygu teithiau hir. O ganlyniad, roedd y gynhadledd hon yn sydyn yn llawer llai brawychus ac yn llawer mwy hygyrch i mi.

Arweiniwyd y drafodaeth gan Chris Mooney-Brown, ynghyd â chyfranwyr gwadd yn cynnwys Mike Layward (Cyfarwyddwr Artistig DASH); Anna Berry (curadur preswyl DASH, MAC Birmingham); Gaia Redgrave (Artist).

Y gyntaf i gymryd rhan oedd Anna Berry – rhoddodd gyflwyniad o’i gwaith a’r rhwystrau mae hi wedi eu hwynebu fel artist anabl.

Disgrifiodd fel y mae’n aml yn teimlo fel rhywun ‘o’r tu allan’ ym myd y celfyddydau – bod yna sawl ffordd o deimlo fel hyn, ac weithiau mae’n ymwneud â chael eich eithrio oherwydd rhwystrau eitha pendant. Er enghraifft, methu mynd i ddigwyddiadau fel agor arddangosfeydd, neu heb berthyn i unrhyw rwydweithiau, neu heb fod yn fyfyriwr mewn ysgol gelf – gall pethau fel hyn ei gwneud bron yn amhosibl i dorri i mewn i’r maes. Nawr mae hi’n ceisio torri ei chwys ei hun ar lwybr sy’n gyfochrog i fyd celf gan obeithio y bydd, ar ryw bwynt, yn llwyddo i ‘groesi drosodd’.

Bu’n siarad am sut roedd cyllid celfyddydau anabl wedi ei helpu i wireddu ei gwaith, ac i ffynnu.

Anna oedd yr artist cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen comisiynau curadurol a drefnwyd gan DASH. Penodwyd hi i swydd curadur preswyl yn y Midlands Arts Centre, ac arweiniodd hynny at arddangosfa yn ngwanwyn 2020.

Mike Layward oedd y siaradwr nesaf, a soniodd am y gwaith mae DASH yn ei wneud. Mae DASH yn gweithio mewn partneriaeth gyda thair oriel yn Lloegr – MAC Birmingham, MIMA Middlesbrough a Chanolfan y Celfyddydau Wysing, Swydd Caergrawnt. Bydd gan bob sefydliad guradur/artist preswyl Anabl gyda hwy am flwyddyn.

Nodau’r rhaglen yw gwneud y sector celfyddydau gweledol yn fwy hygyrch, datblygu mwy o guraduron Anabl, a chreu orielau a fydd ar flaen y gad dros weithredu newid yn y sector.

Pan ofynnwyd iddo – ‘Beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod byd y celfyddydau’n croesawu artist anabl fel artist, fel rhywun cyfartal?’ – cynigiodd Mike ymateb gwych, sef:

‘Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb unigol i herio anablyddiaeth pan fyddwn yn ei weld, ond fel pob achos o wahaniaethu/gwaharddiad, mae e fel arfer yn gynnil oherwydd ei fod wedi’i fewnosod yn ein ffordd o feddwl er pan oedden ni’n blant. Mae hyn yn swnio fel petaech chi i gyd yn mynd i deimlo’n euog iawn, ond dyw anablyddiaeth ddim yn wahanol i hiliaeth a rhaid i ni i gyd ei gydnabod. Sut mae hynny’n helpu byd y celfyddydau gweledol? Wel, bydd yn ein hatal rhag bod yn docenistaidd ac yn ein helpu i weld artist fel artist. Os yw eu gwaith yn wael, dyw hynny ddim oherwydd eu bod yn artist anabl – mae e oherwydd eu bod yn artist gwael.’

Nesaf, rhoddodd Gaia Redgrave gyflwyniad ar ei gwaith, a mewnwelediad byw iawn i’w phrofiad hi o’r rhwystrau mae’n eu hwynebu wrth geisio cyflwyno’i gwaith mewn cystadlaethau ac arddangosfeydd. Tanlinellodd ystod ei rhwystrau trwy ddweud mai’r unig ffordd roedden ni wedi gallu cwrdd â hi y diwrnod hwnnw oedd o achos pandemig byd-eang oedd yn gorfodi pawb i gwrdd ar-lein. Aeth ati i ddarlunio realiti llym gwaharddiad, a diffyg empathi rhai sefydliadau celfyddydol. Er ei bod yn anodd gwrando ar ei geiriau, roedd llawer o’r hyn roedd ganddi i’w ddweud yn tanlinellu’r rhesymau pam roedden ni yno.

A woman wearing denim dungarees kneels on a grey floor in front of a white wall. As she looks down at her hands, her head is turning to sand and the sand is running away through her fingers.
Dellwedd gan Suzie Larke.

Mae byd celfyddyd yn faes anodd i ymdrin ag e. Does yr un ateb syml, cam wrth gam, i sicrhau ‘llwyddiant’ fel artist – ond, yn drist iawn, mae’r sefyllfa’n waeth o lawer wrth i ni edrych arni o bersbectif artist anabl, sef rhywun sydd eisoes yn dod ar draws rhwystrau o ddydd i ddydd.

Mae’n ffaith drist, ond gwir, bod agweddau pobl tuag at waith artistiaid anabl yn gallu bod yn eitha nawddoglyd. Am ryw reswm, mae’n aml yn cael ei ystyried fel ‘ddim cystal’. Mae Aidan Moesby yn aml iawn yn gwneud y sylw craff/doniol bod celf pobl anabl wastad yn cael ei osod yn y coridor sy’n arwain at y toiledau.

Pan ddechreuais ystyried arddangos fy ngwaith, cefais fy llorio gan y cwestiwn: ‘Sut galla i gael arddangosfeydd?’ Gofynnais i rai yn yr un sefyllfa am gyngor ar ‘Ble alla i fynd? I bwy alla i ofyn?’ Ro’n i’n gwybod y byddai raid i mi dderbyn sawl siom, a chael fy ngadael i lawr. Fodd bynnag, do’n i ddim yn barod am yr agweddau gormesol a ddangoswyd tuag at y gwaith ro’n i’n ei wneud. Rydw i’n creu ffotograffau sy’n ymwneud â llesiant meddyliol. Yn portreadu ymdrech drwy gyfrwng celf digidol cysyniadol. Dywedwyd wrtha i na fyddai fy ngwaith yn ‘ffitio i mewn’ yn yr orielau prif-ffrwd. Y byddai’n well petawn i’n chwilio am ofodau a fyddai’n fodlon dangos ‘y math yna o stwff’ – ond doedd neb yn gallu helpu trwy awgrymu pa ofodau allai’r rheiny fod.

Llwyddodd y digwyddiad hwn i amlygu’r angen gwirioneddol i ddal ati i wneud mwy i sicrhau cynnwys gwaith artistiaid anabl ym maes y celfyddydau prif-ffrwd. Y dylen ni fod yn troi at yr artistiaid eu hunain, nid dim ond at y sefydliadau, wrth benderfynu pa hygyrchedd y dylai canolfannau eu cynnig.

Gallai fod yn amserol, gyda’r cyfle i gymryd saib ac ystyried, i weithio ar newid agweddau a chanfyddiadau, a phenderfynu pa fath o fyd celfyddydol y dymunwn obeithio amdano yn y dyfodol.

Yn gyffredinol, bydd angen iddi fod yn ymdrech gydweithredol, gan weithio gyda phob sefydliad y Celfyddydau Anabledd yng Nghymru i greu systemau a strwythurau cymorth – rhai sy’n gweithio yn y tymor byr a’r tymor hir fel ei gilydd, ac sy’n arwain at ganlyniad cynhwysol mwy hygyrch.

A man in a pale blue shirt and blue jeans leans his head against a wall, but his face is invisible because it is sinking into the wall.
Delwedd gan Suzie Larke.

Oherwydd COVID 19, mae digwyddiadau Unlimited Connects Cymru a drefnwyd yn Abertawe ac Aberystwyth wedi cael eu canslo, ac yn eu lle trefnir digwyddiad ar-lein yn yr haf, gyda’r dyddiad i’w gadarnhau.

RELATED COMMISSIONS

FROM THE BLOG