An audience sit on chairs facing a panel discussion. Behind the panel hangs a projector screen.
A previous Unlimited Connects at Watershed. Photo by Jon Aitken.

Ble rydyn ni nawr? Sylwadau ar Unlimited Connects Cymru

Mewn ymdrech i adennill y momentwm a grëwyd cyn y pandemig, roedd ein digwyddiad Unlimited Connects Cymru diweddaraf yn adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi newid, a ble y dylem fod yn canolbwyntio’n sylw a’n hadnoddau i gefnogi sector y celfyddydau anabledd. Mae Harry Murdoch yn adrodd ar y trafodaethau a gafwyd…

Rhyw bythefnos yn ôl, fe gynhaliwyd y digwyddiad ar-lein cyntaf erioed i Unlimited Connects Cymru ei drefnu, ac roedd hwnnw wedi dod i fod oherwydd y pandemig. Daeth yn sgil set o ddigwyddiadau Unlimited Connects a gynhaliwyd ledled Cymru yn 2019 ac yn gynnar yn 2020, rhai a gynhaliwyd yn y modd arferol, eraill wedi symud ar-lein, ac un a arweiniodd at gyhoeddiad.

Nod y digwyddiad diweddaraf oedd holi pa effaith a gafodd Covid-19 ar sector celfyddydau’r anabl yng Nghymru, ac edrych ymlaen at adferiad. Roedd yna ddwy elfen – sesiwn rhwydweithio oedd yr elfen gyntaf, a’r ail oedd trafodaeth banel.

Rhwydweithio

Hwn yn sicr oedd un o’r sesiynau rhwydweithio gorau i ni erioed ei gynnal ar-lein. Ei faint oedd yr elfen allweddol yma. Wrth drefnu’r cyfan ar raddfa fechan, a chadw ffocws, roedd yn fuddiol iawn. Rydw i wedi bod mewn sesiynau rhwydweithio llawer mwy, gan deimlo nad oeddynt yn sbarduno neb. Ond roedd hwn yn gweithio’n dda ac yn teimlo’n agos-atoch gyda rhyw 15 o bobl yn bresennol, a’r rheiny’n gyfuniad o artistiaid a phobl yn cynrychioli gwahanol leoliadau neu sefydliadau.

Roedd y drafodaeth gychwynnol wedi’i chanoli ar y modd yr oedd Covid-19 wedi tarfu ar y momentwm a ddatblygwyd gan y sector yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ym maes cefnogi artistiaid anabl. Datblygodd hyn yn gyflym at drafodaeth o ddiffyg cyfleoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, buan iawn y daeth yn eglur – i’r artistiaid yn y sesiwn, o leiaf – mai’r broblem fwyaf oedd diffyg gwybodaeth am gyfleoedd, ac nad oedd yna adnodd canolog y gallai artistiaid anabl droi ato i ddod o hyd i gyfleoedd yng Nghymru. Nid yw hynny’n gyfystyr â dweud bod yna gyfoeth o gyfleoedd ar gyfer artistiaid anabl yng Nghymru, ond lle maent yn bodoli nid yw’r cysylltiadau angenrheidiol ag artistiaid yn cael eu gwneud tra bod sefydliadau dan gymaint o bwysau yn sgil y pandemig.

Y teimlad llethol a gafwyd oedd yr angen am gynnal sesiynau rheolaidd – tebyg i’r un yma, o bosibl – ochr yn ochr â chyfeiriadur o gyfleoedd ar gyfer artistiaid anabl yng Nghymru (a hwnnw’n cael ei ddiweddaru’n gyson). Byddai hyn nid yn unig yn ffordd i artistiaid ddod o hyd i gyfleoedd, ond hefyd yn fodd i artistiaid a sefydliadau ledled y wlad gysylltu â’i gilydd, p’un ai i rannu ymarfer gorau neu dim ond i gadw mewn cysylltiad trwy Zoom. Pwysleisiwyd hefyd y dylid gwneud y digwyddiadau hyn yn hygyrch i’r rhai nad ydynt eto’n eu hystyried eu hunain fel artistiaid, ond sy’n dangos diddordeb. Soniwyd am nifer o wahanol ddolenni y gellid eu defnyddio, ac mae rhestr o’r rhain i’w gweld ar ddiwedd y blog hwn.

Panel

Cadeiriwyd y drafodaeth banel gan Ruth Fabby o Disability Arts Cymru, ac aelodau eraill y panel oedd yr artist Matthew Gough, Ben Pettitt-Wade o Hijinx, a Sarah Jane Leigh o Ganolfan Mileniwm Cymru.

Yn yr un modd â’r sesiwn rhwydweithio a gynhaliwyd o’i flaen, dechreuodd y panel trwy geisio asesu’r niwed a achoswyd gan Covid-19. Nodwyd pa mor anodd oedd hyn, gan gydnabod y bydd gwir effaith y niwed yn cael ei amlygu wrth i leoliadau ailagor. Amlinellodd Sarah Jane Leigh yr effaith ariannol sylweddol a gafodd Covid-19 ar Ganolfan Mileniwm Cymru, gan arwain at orfod diswyddo nifer o’r staff. Daeth yn berffaith glir fod y niwed, yn gyffredinol, yn eang a’i fod hefyd yn gwahaniaethu. Cyfeiriodd y panel at effeithiau penodol y pandemig ar bobl a chanddynt anabledd dysgu, a phobl niwroamrywiol, ynghyd â’r rhai na allant gael mynediad at gyfathrebu digidol p’un ai oherwydd diffyg mynediad neu dlodi digidol.

Bu’r panel hefyd yn trafod y momentwm a sbardunwyd gan y gyfres flaenorol o ddigwyddiadau Unlimited Connects yng Nghymru, a’r tristwch a deimlid oherwydd bod hyn wedi ei golli yn sgil y pandemig. Y cwestiwn mawr – na ellid ei ateb – oedd  sut i fynd ati i aildanio’r momentwm hwnnw. Pwy sydd â’r cyllid, a chyfrifoldeb pwy yw e? Roedd y themâu hyn yn ganolog i’r sesiwn rhwydweithio hefyd. Yn ogystal, cafwyd trafodaeth ar y Gronfa Adferiad Diwylliannol. A oedd y gronfa’n ddigonol? Nac oedd, mae’n debyg. Llwyddodd i gadw pennau rhai artistiaid a sefydliadau uwchben y dŵr, ond roedd eraill wedi llithro drwy’r craciau. A chan fod yna gyn lleied o rolau newydd, rydym wedi colli llawer o’r cyfleoedd hynny am newid positif a hyrwyddwyd gan bobl newydd oedd yn dod i mewn i sefydliadau.

Llwyddodd Matthew Gough, sy’n athro Dawns ym Mhrifysgol De Cymru yn ogystal ag yn gweithio fel artist, i daflu peth goleuni ar brofiadau myfyrwyr sy’n astudio Dawns. Dywedodd nad ydynt bellach yn gweld cyfleoedd yn yr un ffordd ag y byddent, o bosibl, cyn y pandemig, a’r modd y mae hyn yn cael effaith anghymesur ar fyfyrwyr anabl.

Nid effaith negyddol y pandemig oedd yr unig bwynt trafod – cafwyd trafodaeth hefyd ar yr elfennau positif, beth a ddysgwyd, a pha addasiadau y dylid eu cario ymlaen i sicrhau nad yw artistiaid anabl yn cael eu gadael allan o sgyrsiau a chyfleoedd i’r dyfodol. Gall patrymau gweithio’n hyblyg, yn arbennig, fod yn wych ar gyfer pobl anabl, ac mae digwyddiadau sy’n cael eu ffrydio, neu sydd ar-lein, yn gwella mynediad at gelfyddyd a digwyddiadau celfyddydol.

Pwysleisiodd Ben, Cyfarwyddwr Hijinx, ei fod yn gweld llawer mwy o artistiaid yn defnyddio dogfennau mynediad (access riders) nag oedd yn gwneud hynny cyn y pandemig, a bod Hijinx yn llwyddo i wneud mwy o waith rhyngwladol nag erioed o’r blaen, gan weithio gydag artistiaid yn Hong Kong mewn modd na fyddai’n bosibl yn gorfforol. Cyfeiriodd y panel at rai comisiynau gwych a chyfleoedd penodol megis cyfres y BBC, Culture in Quarantine, y byddai’n dda ei gweld yn parhau y tu hwnt i’r pandemig.

I mi, fel rhywun nad yw’n byw yng Nghymru, un o uchafbwyntiau’r drafodaeth hon oedd dod i wybod am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Ymhlith pethau eraill, mae’r ddeddf hon yn golygu bod Iaith Arwyddion yn cael ei chynnig mewn ysgolion fel iaith ddewisol.

Gan ddod â’r sesiwn i ben ar nodyn positif, gofynnodd Ruth i’r panel beth fydden nhw’n ei nodi fel un peth da a ddigwyddodd yn y flwyddyn a aeth heibio, a dyma oedd gan yr aelodau i’w ddweud:

  • Soniodd Ben wrthym am y cynnydd mewn cyfleoedd a welodd ar gyfer actorion a chanddynt anableddau dysgu ym maes teledu a ffilm
  • Pwysleisiodd Matthew y ffaith fod lleisiau cyfun yn cael eu clywed unwaith eto
  • Cyfeiriodd Sarah at y cyfle derbyniol iawn a gafwyd i dynnu anadl wrth i brysurdeb arferol y gwaith arafu’n sylweddol.

Fel rhywun o’r tu allan, teimlwn fod y ddau ddigwyddiad yma wedi rhoi darlun pur eglur i mi o sefyllfa Celfyddydau’r Anabl yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ogystal â’r problemau maen nhw’n eu hwynebu a beth sydd angen ei wneud. Braf hefyd oedd cael munud tawel i ystyried elfennau positif blwyddyn na welwyd ei thebyg erioed. O’m rhan i fy hun, rydw i wedi treulio mwy o amser yn yr ardd nag mewn unrhyw flwyddyn arall, ac mae hynny’n siŵr o fod yn beth da.

Cysylltiadau

FROM THE BLOG